Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod y dyn a gafodd ei drywanu yn ardal Borth yng Ngheredigion ddechrau’r flwyddyn, bellach wedi marw.

Cafodd Lewis Stone, 71, ei drywanu tra’r oedd yn cerdded ei gi ger sŵ’r Wild Animal Kingdom ar Chwefror 28.

Mae David Kenneth Fleet o Borth wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio ac o fod ym meddiant arf peryglus.

Mae ymchwiliad yr heddlu i’r digwyddiad yn parhau.