Mae un o Aelodau Seneddol y Ceidwadwyr yng Nghymru yn dweud bod gan Boris Johnson “dipyn go-lew o waith i’w wneud i berswadio pobl ei fod yn unigolyn sydd yn meddu ar y rhinweddau sydd eu hangen ar Brif Weinidog”.

Roedd Guto Bebb, AS Aberconwy, yn siarad â golwg360 yn dilyn y cyhoeddiad gan Theresa May ei bod hi’n camu o’r neilltu.

A Boris Johnson yw’r ffefryn i olynu Theresa May, gydag enwau Dominic Raab, Michael Gove, Jeremy Hunt ac Andrea Leadsom wedi eu crybwyll hefyd.

“Heb amheuaeth mae Boris Johnson bellach yn ffefryn am yr arweinyddiaeth,” meddai Guto Bebb.

“Ond mae hynny yn groes, fyswn i’n dadlau, i’r sefyllfa cyn lleied â chwe wythnos yn ôl.

“Y rheswm am hynny ydi oherwydd bod aelodau Ceidwadol o’r farn ei fod o’n debygol o fod yn arweinydd fydd yn gallu denu pleidleisiau.

“Mae gen i amheuon am hynny yn bersonol, a dw i’n credu bod ei drac record o fel Ysgrifennydd Tramor ac yn wir fel gwleidydd yn y rheng-flaen yn gymysglyd, a dweud y lleiaf.

“Ydy, mae o’n ffefryn, ond dw i’n meddwl fod ganddo dipyn go-lew o waith i’w wneud i berswadio pobl ei fod yn unigolyn sydd yn meddu ar y rhinweddau sydd eu hangen ar Brif Weinidog.”

“Angen gweledigaeth”

 Nid yw Guto Bebb wedi penderfynu pwy fydd yn cael ei gefnogaeth.

“Fe arhosa i i weld be sydd gan yr ymgeiswyr i gynnig,” meddai.

“Ond dw i yn meddwl bod angen gweledigaeth yn fwy na dim ond yr addewid o sicrhau Brexit heb gytundeb.

“Fe fyddai hynny yn plesio aelodau’r Blaid Geidwadol – ond mae yn rhaid i’r ymgeiswyr ddeall eu bod nhw’n ymgeiswyr ar gyfer gwledydd Prydain gyfan, ac nid yn unig yn arweinydd i blaid gyda 100,000 o aelodau.”

Creadigrwydd

Fe fydd y ras am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr i gyd i’w wneud â Brexit, meddai Guto Bebb.

“Dw i’n credu bod y problemau sydd wedi cael eu gwynebu Theresa May fel Prif Weinidog dal yn mynd i fod yno os ydi Boris Johnson neu Jeremy Hunt yn dod yn arweinwyr.

“Felly mae gofyn iddyn nhw fod ychydig yn greadigol [yn hytrach] na dim ond meddwl os ydyn nhw’n gallu ennill etholiad ymysg yr aelodau.

“Dw i’n mawr obeithio bydd ymgeisydd ddigon dewr i ddatgan y gwirionedd rydan ni’n wynebu yn hytrach na dim ond apelio i ragfarnau unigolion.”