Dylai Gwynedd a Môn fod yn rhan o ddinas-ranbarth Dulyn, yn ôl un o gynghorwyr tref Plaid Cymru.

Mae Simon Brooks yn dweud y byddai ffurfio cysylltiadau rhwng gogledd orllewin Cymru a’r Werddon yn “ffordd unigryw i gwffio Brexit a gwella sefyllfa economaidd y gogledd-orllewin”.

“Tasa’r gwaetha yn digwydd a’n bod ni’n gadael y farchnad sengl, mi fydd llawer o gwmnïau Gwyddelig angen rhyw swyddfa fechan ym Mhrydain am resymau cyfreithiol,” meddai Simon Brooks, sy’n un o dri sy’n ceisio ennill yr enwebiad i gael bod yn ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiad nesa’r Cynulliad yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd.

Fel rhan o’i ymgyrch mae yn gwyntyllu syniadau polisi newydd ar gyfer denu swyddi i Wynedd.

“Gwynedd a Môn rhy bell o Gaerdydd ac Abertawe”

Yn ôl Simon Brooks, mae polisi economaidd yn rhyngwladol yn canolbwyntio ar ddinas-ranbarthau. Mae’r rhain yn derbyn buddsoddiad mawr ac yn profi twf, meddai.

Yng Nghymru mae dinas-ranbarthau wedi’u creu ar gyfer Caerdydd ac Abertawe.

Ond mae Simon Brooks yn bryderus nad oes digon o fuddsoddiad mewn rhannau eraill o Gymru.

“Mae Gwynedd a Môn yn rhy bell o ddinas-ranbarthau Caerdydd ac Abertawe i ni fedru elwa ohonyn nhw,” meddai.

“Mae rhai yn sbïo wedyn ar ddinasoedd mawrion yn Lloegr fel Lerpwl a Manceinion, ond y broblem efo hynny ydi y byddem yn cael ein Prydeineiddio.”

Dulyn – “llai na dwy awr i ffwrdd”

“Ond mae gynnon ni ddinas fawr, ryngwladol lai na dwy awr oddi wrthyn ni i’r gorllewin. Tydi hi ddim yn ddinas Seisnig, felly wneith hi ddim ein Prydeineiddio,” meddai Simon Brooks.

“Dw i’n adnabod pobol yn Llŷn ac Eifionydd sy’n picio draw i Ddulyn am waith, ac sy’n gallu byw yn Nwyfor o ganlyniad.

“Os mai dinasoedd-ranbarth ydi’r dyfodol, wel beth am ddinas-ranbarth ryngwladol sy’n cysylltu Iwerddon efo Gwynedd a Môn?

“Beth am fuddsoddi mewn cychod cyflym rhwng Dulyn a Chaergybi?

“Dulyn ydi un o’r dinasoedd mwya’ deinamig yn y byd. Mae’n wirion bost nad ydyn ni’n elwa ar hynny, a ninnau mor agos.”

Cydweithio tros y môr rhwng Sweden a Denmarc

“Mae yna enghreifftiau ar hyd Ewrop o gydweithio economaidd ar draws môr,” meddai Simon Brooks.

“Er enghraifft rhwng y Ffindir ac Estonia, a rhwng Sweden a Denmarc cyn iddyn nhw godi’r bont. Mater ydi o o weledigaeth.

“Byddai hybu integreiddio economaidd rhwng Dulyn a Gwynedd yn ffordd i ni gwffio Brexit hefyd.

“A tasa’r gwaetha yn digwydd a’n bod ni’n gadael y farchnad sengl, mi fydd llawer o gwmnïau Gwyddelig angen rhyw swyddfa fechan ym Mhrydain am resymau cyfreithiol.

“Efo cychod cyflym, mae’n amlwg gellwch chi leoli rhai o’r swyddfeydd yma yng Ngwynedd.”