Mae Cymdeithas yr Iaith yn lansio ymgyrch dros sefydlu Menter Iaith Ddigidol er mwyn gwella presenoldeb y Gymraeg ar-lein.

Yn ôl y mudiad “mae datblygu’r iaith ar-lein yr un mor bwysig i’r Gymraeg ag oedd cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg.”

Maen nhw’n galw am gorff i annog creu deunydd ar lawr gwlad ar ben cynnal ymchwil i’r angen a gwella ymwybyddiaeth ymhlith unigolion, grwpiau a sefydliadau o ran beth sydd ar gael yn barod.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae bylchau enfawr yn y ddarpariaeth a’r cynnwys presennol ar-lein.

 “Tanseilio defnydd yr iaith”

Dywed Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith ei bod “mor affwysol o amlwg bod ddiffygion difrifol o ran cynnwys Cymraeg ar YouTube ac ar-lein yn fwy cyffredinol.”

“Gyda defnydd o blatfformau ar-lein yn uwch nag erioed o’r blaen, mae’r diffyg Cymraeg ar y platfformau hynny’n tanseilio defnydd yr iaith yn ein cymunedau.

Dyna pam rydyn ni yn y Gymdeithas eisiau gweld corff sy’n gallu rhoi sylw penodol i’r maes, a rhywbeth sydd wedi ei wreiddio ac yn galluogi ein pobol ar lawr gwlad, yn ein cymunedau a chyda’r gallu i gynorthwyo a chomisiynu cynnwys lleol Cymraeg.”

Ymgynghoriad

 Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn mynd ati i gynnal ymgynghoriad ar y mater ac yn casglu barn pobol am natur a phwrpas Menter Iaith Ddigidol ar faes Eisteddfod yr Urdd wythnos nesaf.

 “Gwelwn y gall y Gymraeg gael ei hennill neu ei cholli fan hyn. Mae datblygu’r Gymraeg ar-lein yr un mor bwysig i’r iaith ag oedd cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg a datblygiad y wasg brintiedig yng Nghymru – mae’n hanfodol.

 “Rhaid mynd ati i adnabod anghenion megis creu mwy o ddeunydd, hyrwyddo deunydd a chreu platfformau newydd sy’n cyfateb i’r rhai sydd ar gael mewn ieithoedd eraill a hefyd datblygu syniadau gwreiddiol.”