Mae un o gyn-weinidogion Llywodraeth Cymru wedi cefnu ar y blaid Lafur ac wedi ochri â’r Blaid Werdd.

Mewn neges ar ei flog mae Leighton Andrews yn egluro bod ei aelodaeth o’r blaid wedi dod i ben ym mis Mawrth, ai fod wedi penderfynu peidio ai adnewyddu.

Mae’n egluro’i benderfyniad gan nodi bod “arweinyddiaeth y Blaid Lafur” wedi caniatáu i’r blaid droi’n “lanast gwrth-semitig sy’n cefnogi Brexit”.

Ac mae’n datgelu ei fod wedi pleidleisio am y blaid werdd yn yr etholiad Ewropeaidd, gan ganmol eu hunig Aelod Seneddol, Caroline Lucas.

Y Gwyrddion

“Dw i’n pleidleisio tros fy wyresau a’u dyfodol [trwy bleidleisio tros y Blaid Werdd,” meddai Leighton Andrews yn ei flog.

“Dw i’n gwybod bod pobol eraill wedi gwneud penderfyniadau gwahanol i mi, a bod llawer o bobol da yn sefyll tros y pleidiau gwrth-Brexit eraill.

“Dw i ddim yn dweud bod y Gwyrddion yn berffaith. Ond, yn strategol, hoffwn weld y blaid yn gwneud yn dda yn yr etholiadau yma. A hoffwn fod ganddyn nhw seddi yn y Cynulliad yn 2021.”

Ar ddiwedd ei flog mae’n dweud “yr hoffai ddychwelyd adref” i’r Blaid Lafur, ond fydd e ddim yn gwneud hynny os bydd y blaid yn “galluogi” Brexit i ddigwydd.

Ymateb

Ar Twitter, mae’r Aelod Cynulliad Llafur, Alun Davies, wedi rhannu ei siom, ac wedi galw am weithredu gan Mark Drakeford.

“[Leighton Andrews] oedd un o’r gweinidogion mwyaf talentog i mi gydweithio ag ef,” meddai. “Heb dalent pobol fel Leighton dw i ddim yn siŵr i ba le rydym ni’n mynd.

“Rhaid i’r Prif Weinidog weithredu.”

Leighton Andrews

Roedd Leighton Andrews yn Weinidog Addysg a Sgiliau o 2009 tan 2013, ac yn Weinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes cyn hynny.

Cynrychiolodd y Rhondda yn Aelod Cynulliad Llafur cyn colli ei seddi Leanne Wood yn 2016.