Mae Llywodraeth Prydain yn dal i ystyried cais gan gwmni o’r Eidal i chwilio am olew a nwy mewn rhannau o Fae Ceredigion sydd wedi cael eu nodi’n ardal gadwriaethol.

Daw hyn er gwaethaf adroddiadau bod ENI UK yn bwriadu cychwyn ar y gwaith o arolygu darn eang o Fôr Iwerddon mor gynnar â dechrau mis Mehefin.

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol ac Aelod Seneddol wedi mynegi pryder ynghylch y bwriad honedig, ac yn cwestiynu pa effaith fydd arolwg o’r fath yn ei gael ar yr amgylchedd.

Mae Llywodraeth Prydain wedi cadarnhau wrth golwg360 y gallai cynlluniau ENI UK “effeithio ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig”, ond maen nhw’n ychwanegu na fydd penderfyniad yn cael ei wneud tan ar ôl iddyn drafod â gwahanol gyrff amgylcheddol, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Mae dal angen i’r ymgynghori a’r prosesau Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd gael eu cwblhau, ac nid oes yr un penderfyniad wedi ei wneud pa un ai i wrthod ynteu dderbyn y cais,” meddai llefarydd.