Mae Gweinidog Diwylliant Cymru, Dafydd Elis-Thomas, yn honni bod newyddiaduriaeth Cymraeg yn annigonol a bod ganddo “ddim cof o glywed newyddion dwys” ar fwletinau Cymraeg.

“Dwi ddim yn cofio clywed llawer o newyddion dwys ar fwletinau newyddion Cymraeg ond falle mod i wedi colli rhywbeth,” meddai yn Siambr y Cynulliad heddiw (Dydd Mercher, Mai 22).

“Yr hyn sy’n bwysig i mi yw bod newyddion yn cael ei gyflwyno yn ddiddorol, ac rwy’n hoff iawn o newyddion Channel 4,” meddai.

Daw’r sylw yn dilyn y newyddion y bydd rhaglen Newyddion 9 ar S4C yn symud i 7.30 flwyddyn nesaf ar ôl hawlio slot 9.00 ers 2013.

“Sarhaus ac anwir”

Fe ymatebodd Delyth Jewell – Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros ddiwylliant – i sylwadau Dafydd Elis Thomas.

Mae hi’n gwrthod sylwadau’r Gweinidog gan ganmol rhaglenni newyddion Cymraeg a gwaith “arbennig”  newyddiadurwyr cyfrwng Cymraeg sy’n gweithio dan amodau o doriadau ac amserlenni caeth.

“Mae sylwadau’r gweinidog am ddiffyg safon newyddiaduraeth yn y Gymraeg yn gwbl sarhaus ac yn anwir,” meddai Delyth Jewell.

“Yn un, mae toreth o raglenni safonol yn y Gymraeg sy’n ymdrin â newyddion cyfoes mewn modd dadansoddol a threiddgar megis Post Cyntaf, Taro’r Post a rhaglenni arbenigol Radio Cymru, Newyddion 9 ac Y Byd a’r Bedwar.”

“Pwysau eithriadol”

Yn ôl Delyth Jewell hefyd “mae newyddiadurwyr sy’n gohebu yn y Gymraeg yn gweithio dan bwysau eithriadol ac yn gwneud gwaith arbennig dan amodau heriol.”

“Er enghraifft, gwelwyd toriadau DQF sylweddol i’r BBC ers 2012 gan weld cwtogi’r nifer o newyddiadurwyr ond disgwyliad i gynhyrchu’r un faint o gynnwys. Mae disgwyl i ohebwyr Cymraeg weithio yn y Gymraeg a’r Saesneg ar yr un pryd hefyd.

“Cefnogaeth gan eu Gweindiog Diwylliant sydd angen ar ein newyddiadurwyr nid tanseilio cyhoeddus. Gofynnaf i’r gweindiog dynnu ei eiriau yn ôl.”