Mae garddwr o Ynys Môn wedi ennill ei ddeuddegfed medal aur yn yr RHS Chelsea Flower Show fore heddiw (dydd Mawrth, Mai 21).

Bu Medwyn Williams o Lanfairpwll yn disgwyl am ei ganlyniad am 8 o’r gloch y bore mewn gŵyl nad ydi o wedi bod ynddi ers naw mlynedd.

“Well… dw i’n chuffed de! Hon ydi’r deuddegfed i mi wan de! Dwi’n Gymro Cymraeg ac yn trio rhoi Cymru ac Ynys Môn ar y map,” meddai wrth golwg360.

“Pobol wedi dychryn”

2010 oedd y tro diwetha’ i Medwyn Williams fod yn y sioe.

Cafodd ei dynnu yn ôl yno eleni ar ôl cael cynnig gan noddwyr Canna – “noddwyr da,” yn ôl y garddwr o’r ynys.

“Maen nhw’n arbenigwyn y r mewn bwyd garddwriaethol. Oedd hi mor ddrud i ddod yma i aros yn Llundain am wyth noson ond maen nhw wedi talu tro yma,” meddai.

“Mae pobol wedi dychryn yn gweld yr arddangosfa de, dydyn nhw heb weld ddim byd tebyg iddi,

“Mae hi’n ugain troedfedd o hyd, naw troedfedd o uchder, ac yn saith troedfedd o led.”

Enw Cymraeg ar domato

Ymhlith y pupur, y moron, y cennin a’r nionod mae un llysieuyn arbennig gan Medwyn Williams sydd yn “dathlu llwyddiant pêl-droed Cymru.”

“Tomato draig goch di ei henw hi, y tomato Cymraeg cyntaf erioed,” meddai.

Penderfynodd greu’r tomato yn dilyn llwyddiant Cymru ym mhencampwriaeth Ewro 2016, a dyma’r tro cyntaf iddi ymddangos yn Chelsea.

“Reit, fydd raid fi fynd rŵan, ma’ gen i gwsmeriaid yn disgwyl amdana i,” meddai Medwyn Williams wedyn.