Mae Gweinidog Brexit Cymru yn dweud na chaiff cynnig newydd Theresa May ar Brexit ei dderbyn gan Lafur wrth i drafodaethau barhau yr wythnos hon.

Wrth i Theresa May wneud cynnig i Lafur am y trydydd tro mae Jeremy Miles yn nodi ein bod “wedi bod yma o’r blaen”.

Mae hefyd yn credu bod y ras am arweinyddiaeth y blaid Dorïaidd “yn cael ei theimlo yng nghanol y trafodaethau”.

Ras arweinyddiaeth yn ymyrryd

Mae Jeremy Miles yn teimlo y bydd tair wythnos o’r ras am arweinyddiaeth y Torïaid yn cymryd drosodd San Steffan gan ymyrryd ar y trafodaethau rhwng Theresa May a’r Blaid Lafur.

“Nid yw’r trafodaethau am gael ei sortio felly. Mae Tŷ’r Cyffredin angen cymryd rheolaeth,” meddai.  

Yn ôl Jeremy Miles mae’r ffaith nad oes unrhyw ddatblygiad wedi dod o’r trafodaethau yn golygu bod y posibilrwydd o Brexit meddal yn annhebygol.

“Rydyn ni yn Llywodraeth Cymru wedi disgrifio dau ganlyniad Brexit fel rhai derbyniol – Brexit meddal neu refferendwm.”

“Fe fydden ni’n galw ar Dŷ’r Cyffredin i ddewis un o’r dewisiadau hynny, neu os yn bosib, y ddau.”

Estyniad arall i Erthygl 50

Canlyniad arall o ras arweinyddiaeth y Torïaid yw ei bod hi’n debygol iawn y bydd estyniad arall i Erthygl 50 heibio fis Hydref yn ôl Jeremy Miles.

Mae rhagdybiaeth Theresa May y bydd hi’n sicrhau cytundeb ymadael “heb gefnogaeth yr wrthblaid” oherwydd bod pleidiau yn “ofn canlyniadau etholiadau Ewrop” a hynny gyda “digon o amser i gael deddf trwy’r Senedd” yn rhai “arwrol” meddai.

“Mae hi wedi methu teirgwaith ac mae’n edrych yn debyg y bydd hynny’n digwydd eto.”