Fe fydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Benfro yn penderfynu heddiw (dydd Mawrth, Mai 21) a fydd cais i godi 56 o dai newydd ym mhentref Crymych yn mynd yn ei flaen.

Y cynnig yw codi cymysgedd o dai arferol a byngalos, gyda 25% yn dai fforddiadwy, ar dir fferm Villa ger prif stryd y pentref.

Mae asesiad iaith gan y datblygwyr, Tai Ceredigion, yn dweud na fydd y cynllun yn cael effaith niweidiol ar y Gymraeg.

Ond mae llawer yn bryderus yn y pentref sydd â phoblogaeth a 780 o effaith y datblygiad ar yr iaith ac ar draffig.

“Brwydr”

Yn ôl Rhidian Evans, Prif Swyddog Menter Iaith Sir Benfro, fe all cynllun o’r fath gael effaith estynedig ar gymeriad pentref sy’n siarad Cymraeg.

“Yn yr ardal yma, rydym yn brwydro i gadw’r iaith. Mae rhywbeth fel hyn yn mynd i gael effaith fawr,” meddai.

“Mae’n ddatblygiad sylweddol iawn i bentref o faint Crymych. Gallai’r effaith ar y Gymraeg fod yn andwyol, os bydd nifer yn symud mewn i’r ardal ddim yn siarad Cymraeg

Fe fyddai’r cynllun yn cynyddu poblogaeth Crymych o 134 yn ôl Tai Ceredigion.

Mae 60% o drigolion Crymych yn siarad Cymraeg, y gyfradd uchaf yn Sir Benfro yn ôl consensws iaith 2011.

Y cynllun

Mae’r cynllun yn cynnwys cais i godi saith tŷ dwy ystafell, 27 tŷ tair ystafell, 16 tŷ pedair ystafell, un byngalo dwy ystafell, tri byngalo tair ystafell a dau fyngalo pedair ystafell.

“Trwy gydweithio gyda’r gymuned, y cynghorydd sir leol ac Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Sir Benfro rydym yn edrych i ddatblygu ystâd fydd yn ddeniadol i bobl leol,” meddai llefarydd i Dai Ceredigion.

“Mae ystyriaeth i’r iaith Gymraeg yn cael ei wneud ym mhob dim rydym yn ei gyflawni ac rydym yn gwerthfawrogi’r pryder sydd wedi cael ei ddangos.”