Mae teulu merch ifanc o Gaerdydd a fu farw trwy hunanladdiad yn creu sefydliad i helpu pobol ifanc gyda phroblemau iechyd meddwl.

Fe gollodd Manon Jones o Bontcanna ei brwydr yn erbyn iselder a chymerodd ei bywyd ei hun ym mis Mawrth y llynedd yn 16 oed.

Roedd hi’n ddisgybl yn Ysgol Plasmawr yn y brifddinas ac mae ei marwolaeth wedi cael effaith ddwys ar ei theulu, ffrindiau a’r gymuned ehangach.

Nawr mae ei rhieni, Jeff a Nikki Jones, a’i chwaer Megan, yn creu Sefydliad Manon Jones fydd yn cynnig cymorth a gwybodaeth i bobol ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl.

 “Taflu goleuni yn yr argyfwng”

“Roedd Manon yn gymeriad disglair, deinamig a thalentog – roedd yn ofalgar, yn gariadus ac yn angerddol. O’r tu allan roedd fel petai’r byd wrth ei thraed, ond y tu mewn iddi roedd yma lofrudd tywyll a distaw yn amsugno pob teimlad o bositifrwydd y gallai ddod o hyd iddo,” meddai ei mam Nikki Jones.

“Roedd Manon bob amser yn ceisio gwneud y byd yn lle gwell i bawb o’i chwmpas, felly rydym am greu’r Sefydliad i helpu i daflu goleuni am yr argyfwng iechyd meddwl tywyllaf a lledaenu caredigrwydd dros rannau caletaf bywyd.”

Daeth hanes Manon Jones i’r amlwg ar ôl i aelod Senedd Ieuenctid Cymru, Manon Clarke, siarad yn angerddol am frwydr ei ffrind ac am y gefnogaeth brin sydd ar gael i bobol ifanc sy’n dioddef.

Taith 250 milltir

Fe fydd grŵp o ffrindiau a theulu Manon Jones yn gwneud taith feic 250 milltir ar hyd Lôn Las Cymru – o Gaergybi i Gaerdydd , ar Ŵyl Banc y Sulgwyn (Dydd Llun, Mai 27), er mwyn lansio’r sefydliad.

Mae’r grŵp eisiau codi arian a chodi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl pobol ifanc pan mae llawer yn wynebu pryder ynghylch arholiadau.

“Roedd Manon yn ddisgybl gwych ac rydym i gyd yn ei cholli. Rydym yn gymuned agos ac roeddem am helpu ym mha ffordd bynnag y gallem ar ei chyfer hi a chynifer o’n pobl ifanc,” meddai Rhys Harries, pennaeth Ysgol Treganna.