Mae’r cyn-bostmon a ddaeth yn un o brif ffigyrau llywodraethau Llafur Tony Blair a Gordon Brown, yn honni fod ganddo ran yn “ennill” y refferendwm i aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn 1975.

Yn ôl Alan Johnson, a ddaeth i neuadd chwaraeon yn Gwersyllt ger Wrecsam i hyrwyddo ei gyfrol ddiweddaraf, roedd y trafodaethau y bu’n rhan ohonyn nhw ar ran postmyn Llundain cyn pleidlais 1975, yn allweddol yn sicrhau pleidlais tros aros i mewn.

“O’n i’n deall pam oedd yr hen aelodau Llafur – y rhai ar y chwith traddodiadol – yn gweld yr Undeb fel clwb ar gyfer y dynion cyfoethog, ond ro’n i’n ei weld yn fwy na marchnad,” meddai Alan Johnson.

“Ond, pan welodd y postmyn yr o’n i’n eu cynrychioli, y llwyth o daflenni yn dod i mewn i’r ganolfan ddosbarthu… roeddan nhw’n holi cwestiynau am faint o amser oedd hi’n mynd i gymryd i ni ddosbarthu rhain, ac a oedden nhw’n mynd i gael eu talu am wneud y gwaith ymchwanegol?

“Fel swyddog undeb, roedd yn rhaid i mi drafod amheuon y postmyn a bod yn bont rhyngddyn nhw a’r rheolwyr… rhaid i chi gofio mai fel gweision sifil yr oedd postmyn yn cael eu hystyried bryd hynny – roedden nhw’n gwisgo crys a thei, dim o’r lol gwisgo siorts yma – ac roedd yna faterion difrifol i’w hystyried.

“Beth bynnag,” meddai Alan Johnson wedyn, “mi lwyddais i i sicrhau trefn lle’r oedd y postmyn oedd yn dosbarthu’r  taflenni cyn refferendwm 1975, yn cael hawlio deuddeg awr o or-amser yr wythnos… ac roedd hynny’n iawn gan y ddwy ochr.

” Felly fe alla’ i hawlio rhan fach yn y fuddugoliaeth a olygodd fod y Deyrnas Unedig wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd bryd hynny… a dyna oedd y peth iawn, wrth gwrs.”