Mae teulu dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar briffordd yr A4232 i mewn i Gaerdydd wedi talu teyrnged i “ŵr bonheddig caredig a gofalgar”.

Fe fu farw Leighton Maurice, 63 oed, yn y gwrthdrawiad dau gerbyd rhwng Croes Cwrlwys a Lecwydd bnawn Iau.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu:

“Fel teulu rydym mewn tristwch a sioc gyda’r hyn sydd wedi digwydd.

“Roedd Leighton yn ŵr bonheddig o’r bôn i’r brig; yn garedig, gofalgar a llawn hwyl. Yn llawn balchder, eto’n ddiymhongar.

“Roedd wrth ei fodd gyda cherddoriaeth, garddio a phêl-droed. Roedd wedi gobeithio arddangos y Sioe Flodau Chelsea y flwyddyn nesaf, a byddai’n dal i chwarae pêl-droed yn 63 oed, hyd yn oed os oedd yn cymryd tridiau bellach i ddod ato’i hun.

“Hoffem fanteisio ar y cyfle i bawb a frwydrodd mor galed i’w achub, a gofynnwn nawr am lonydd i alaru fel teulu.”

Mae Heddlu De Cymru’n dal i ymchwilio i’r gwrthdrawiad ac yn gofyn i unrhyw dystion nad ydyn nhw wedi cysylltu â nhw eto wneud hynny, yn enwedig rhai â lluniau dash-cam.