Fe fydd cyfarfod yn cael ei chynnal ym Mhenrhyndeudraeth heddiw (Dydd Sadwrn, Mai 18) i drafod camau polisi i fynd i’r afael ag effaith tai gwyliau ar y Gymraeg.

Fe fydd yr Aelod Seneddol lleol, Liz Saville Roberts, ac Elfed Roberts ac Elin Hywel o Gymdeithas yr Iaith yn arwain y drafodaeth o dan gadeiryddiaeth Sel Jones, datblygwr llety gwyliau ac ymgyrchydd iaith o Gaernarfon.

Mae ystadegau diweddar yn dangos bod 39% o’r tai a werthwyd yng Ngwynedd yn 2017/18 yn ail gartrefi.

“Annhegwch presennol yn rhemp”

“Os oes yna un pwnc llosg sy’n crisialu argyfwng y Gymru gyfoes, yna “Tai” yw hwnnw,” meddai Robat Idris o Gymdeithas yr Iaith.

“Pwy sy’n berchen arnyn nhw? Pwy sy’n medru fforddio eu prynu? Pwy sy’n methu fforddio eu prynu? Mae’r annhegwch presennol yn rhemp.”

“Mae yna ddadl am edrych tuag at beth mae ardaloedd yng Nghernyw wedi gwneud, o ran cyfyngu ar y nifer o ail gartrefi mewn ardal, ac mae hynny’n un pwynt sydd angen ei drafod.”

Pobol ifanc yn gadael

Mae Robat Idris yn cyfeirio at y “pwysau aruthrol” sy’n wynebu siroedd Cymreig Gorllewin Cymru oherwydd bod cymaint o ail gartrefi a rhai ar gyfer ymwelwyr.

“Does ryfedd yn y byd fod yna broblem aruthrol wedi datblygu i raddau sy’n waeth na dim a welwyd yn y gorffennol, ar waetha’r holl rybuddion a’r ymgyrchu a fu.

“Os edrychwn ar Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin dros y degawd diwethaf, mae 117,000 o bobl ifanc rhwng 15 a 29 wedi gadael yr ardaloedd hynny”.