Mae cystadleuaeth canu fwyaf y byd, yr Eurovision, yn cael ei chynnal nos fory (Dydd Sadwrn, Mai 17) yn Tel Aviv,  Israel.

Yng nghanol y cannoedd o bob cwr o’r byd sydd wedi bod yn rhan o’r trefnu mae un Cymro – Gwilym Huws o’r Felinheli ger Caernarfon.

Mae’r Programiwr Fideo wedi bod yn Tel Aviv ers tri mis erbyn hyn, ac fe fydd ei waith caled dros y cyfnod hwnnw yn dod lawr i un noson fawr fory.

 “Mae’n deimlad aruthrol, a sbesial – i weld cymaint o dalent o amgylch y byd yn dod at ei gilydd,” meddai Gwilym Huws wrth Golwg360.

“A dim jest yr artistiaid  ond yr holl dîm technolegol tu ôl i bob peth. Gyda dim ond finna’ a tri arall o wledydd Prydain – a finna yr unig Gymro…”

250 miliwn yn gwylio

 Gwaith Gwilym Huws yw defnyddio cyfrifiadur i reoli’r fideos sy’n cael eu dangos ar sgriniau mawr mewn achlysuron arbennig.

Dros gyfnod o dri mis oedd yn cynnwys oriau mawr a dim ond un diwrnod i ffwrdd, mae’r programiwr wedi bod yn paratoi delweddau fideo 42 gwlad sydd wedi’i thorri lawr i 26 i’r ffeinal fory.

Fe fydd rhai iddo sicrhau bod y sgriniau a’r delweddau yn rhedeg yn llyfn yfory gyda 250 miliwn o bobol yn gwylio ar deledu.

“Dw i’n teimlo’r pwysau ychydig, ond mae hynny i’w ddisgwyl. Y peth mwya’ scary ydi’r amser rhwng y caneuon i newid gwahanol elfennau llwyfan sy’n tua 35 eiliad rhwng pob cân!

“Mae paratoi am hyn dros gwpwl o fisoedd yn ddi-stop wedi bod yn help!”

Madonna

Madonna yw un o’r perfformwyr gwadd sydd yn camu ar y llwyfan fory.

“Mae siarad gyda thîm Madonna am wahanol bethau yn brofiad swreal, ond hollol sbesial,” meddai Gwilym Huws.

“Faswn i erioed ‘di meddwl yn Chweched Ddosbarth Ysgol Syr Hugh Owen (Caernarfon) y baswn i yn gweithio gyda Madonna yn Tel Aviv wyth mlynedd wedyn, a hynny ar un o sioeau teledu mwyaf y byd.

“Rydan ni efo gwerth dros filiwn [o bunnau] mewn cyfrifiaduron arbennig wrth ein hochr ar gyfer hwn, rhywbeth wnes i erioed freuddwydio amdano.”

“Awstralia ydy’r ffefryn gen i”

 “Mae’n anodd dianc” o awyrgylch yr Eurovision yn Tel Aviv, meddai Gwilym Huws.

“Mae pawb yma yn holi am y sioe gyda phawb yn gwybod cwpwl o ganeuon – mae eraill jest yn dweud: ‘Mae gen i dast mewn miwsig… tydi’r Eurovision ddim i fi!’”

Ar ôl treulio misoedd yn gwylio perfformiadau, mae’r Cymro yn barod i rannu ei ffefryn hefo ni hefyd.

“Dw i’n meddwl mai Awstralia ydi’r un i fi. Mae’n gymysg o elfennau set llwyfan arbennig ac effeithiau digidol fideo sydd yn creu sioe hudol.”