Mae golwg360 ar ddeall bod Aelodau Cynulliad yn rhanedig tros gynllun i rwystro grŵp Plaid Brexit yn y Senedd.

Ddydd Mercher (Mai 15), cyhoeddodd pedwar cynrychiolydd – Mark Reckless, Mandy Jones, Caroline Jones a David Rowlands – eu bod am ffurfio grŵp Plaid Brexit yn y Cynulliad.

Ond mae sïon yn dew bod yna gynllwyn i rwystro hynny trwy newid rheolau’r sefydliad – y Rheolau Sefydlog.

Mae golwg360 ar ddeall bod rhai Aelodau Cynulliad eisiau cyflwyno gwelliant a fyddai’n golygu nad oes modd sefydlu grŵp mewn enw plaid nad oes eisoes yn cael ei gynrychioli yn y Senedd.

Byddai angen llofnod gan chwe Aelod Cynulliad er mwyn cyflwyno’r gwelliant, a byddai modd ei weithredu pe bai dau draean o’r Cynulliad yn ei gymeradwyo.

Y Llywydd, Elin Jones, sydd â’r grym i ganiatáu ffurfio grŵp Plaid Brexit, a hithau hefyd sy’n medru caniatáu dadl am y gwelliant arfaethedig.

Cefnogaeth?

Mae un o’r rheiny sydd ynghlwm â’r cynllun yn cydnabod na fyddai’n digwydd “dros nos”, ac na fyddai’n cael ei wireddu cyn toriad y Cynulliad (Mai 27 – Mai 31).

Aelodau Plaid Cymru a Llafur sy’n cefnogi’r cam “yn bennaf”, meddai, ac mae’r Aelod Cynulliad yn ffyddiog y gall y gwelliant ennill y mwyafrif sydd ei angen.

“Dw i’n credu bod aelodau o bob plaid yn grac”, meddai wrth golwg360. “Maen nhw’n teimlo bod hyn yn warthus a’i fod yn tanseilio’r broses ddemocrataidd.

“Mae gyda chi bobol wnaeth gael eu hapwyntio [ar sail plaid]. Doedden nhw ddim wedi cael eu hethol fel unigolion. Dyw eu henwau erioed wedi bod ar bapur pleidleisio.”

Pe bai holl gynrychiolwyr Plaid Cymru a Llafur yn cefnogi’r cynllun byddai ganddyn nhw gefnogaeth 39 aelod – un yn llai na’r 40 sydd ei angen.

Mae un ffynhonnell yn awgrymu na fydd y Ceidwadwyr yn cefnogi’r cam.

Pryderon

Mae Aelod Cynulliad arall yn pwysleisio na ddylai cyd-gynrychiolwyr ymyrryd.

“Dylai ein bod ni ddim yn newid y rheolau hanner ffordd trwy Gynulliad fel hyn,” meddai’r cynrychiolydd yma.

“Ar ddiwedd y dydd, mae’n bwysig bod y rheolau yn gyson a dyw hi ddim yn iawn fod y rheolau yn cael eu newid hanner ffordd trwyddo.”

Mae Aelod Cynulliad arall yn ategu at hynny gan nodi: “Dw i’n poeni am greu un set o reolau i aelodau rhanbarthol, ac un set o reolau i aelodau etholaethol.”

Mae’n debyg byddai’r gwelliant yn cyfyngu ar aelodau rhanbarth – dyma yw pob un o aelodau Plaid Brexit – yn fwy nac ar aelodau etholaeth.

“Ar hyn o bryd mae pob aelod yn gydradd,” meddai’r Aelod Cynulliad, Mark Isherwood, yn hysbys wrth golwg360. “A dyna sut ddylai hi fod.

“Unwaith yr ydych yn dechrau gwahaniaethu, dyna pryd mae’r sustem yn dechrau chwalu’n ddarnau.”

Gallwch ddarllen rhagor am y stori yn fan hyn.