Cyn-arweinydd Cyngor Sir Gâr bellach yn Gadeirydd

 

Neuadd y Dref, Caerfyrddin

Llun: Llywelyn2000 CC SA 3.0 trwy Gomin Wicimedia

Mae cyn-arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin bellach wedi ei wneud yn Gadeirydd.

Bu’r Cynghorydd Kevin Madge yn arwain y cyngor rhwng 2012 a 2015, pan gafodd ei ddisodli gan gyd-aelodau iddo yn y Blaid Lafur.

Mae’r aelod tros Garnant yn Nyffryn Aman bellach wedi olynu’r Cynghorydd Mansel Charles, yr aelod tros Lanegwad, yng nghadair y cyngor am y flwyddyn nesaf.

Yr Is-Gadeirydd newydd yw’r Cynghorydd Ieuan Davies, yr aelod tros Lanybydder.

Mae dyletswyddau’r Cadeirydd yn cynnwys cadeiriau cyfarfodydd llawn y cyngor, cynrychioli’r cyngor mewn digwyddiadau ffurfiol a chroesawu ymwelwyr i’r sir.

Mae disgwyl i’r Cadeirydd hefyd gefnogi elusen o’i ddewis yn ystod y flwyddyn, ac eleni fe fydd y Cynghorydd Kevin Madge yn cefnogi’r Ymddiriedolaeth Trussell, sy’n gyfrifol am rwydwaith  o fanciau bwyd yng ngwledydd Prydain.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y flwyddyn sydd i ddod,” meddai. “Byddaf yn gwneud fy ngorau glas dros bawb.”

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Perthynas gymhleth Cymru a Lerpwl