Mae un o golofnwyr cylchgrawn Golwg wedi amddiffyn sylwadau dadleuol a wnaeth wrth gyfeirio at brif actores y gyfres deledu, Un Bore Mercher, gan ddweud ei fod yn defnyddio “dull eironig a dychanol”.

Yn ei golofn ‘Ar y Soffa’ yn rhifyn yr wythnos yma o’r cylchgrawn, mae Huw Onllwyn yn agor gyda’r frawddeg: “Nid oes amheuaeth fod gan Eve Myles goesau hyfryd – sy’n edrych yn well fyth mewn pâr o high-heels.

“Ac mae hynny’n gwneud Un Bore Mercher yn werth ei wylio.”

Mae’r colofnydd yn mynd yn ei flaen i ddweud bod pennod gynta’r gyfres newydd wedi ei siomi – “… roedd yn teimlo ar adegau fy mod yn gwylio rihyrsal drama newydd”.

Ymhlith y rhai sydd wedi beirniadu brawddegau agoriadol y golofn mae’r actor Bradley Freegard, gŵr Eve Myles, sydd hefyd yn ymddangos yn Un Bore Mercher.

Mae wedi disgrifio’r sylwadau fel rhai “annerbyniol” a “sinistr”.

Yn ôl cylchgrawn Golwg, bwriad y golofn oedd “ysgogi trafodaeth am y ffordd y mae menywod yn cael eu portreadu ar deledu”.

“Dull eironig a dychanol”

Mewn ymateb i’r beirniadu, mae Huw Onllwyn wedi amddiffyn ei sylwadau.

“Yn fy ngholofn, roeddwn yn cwestiynu pam fod cynhyrchwyr y rhaglen wedi penderfynu fod angen gwisgo Eve Myles (sy’n chwarae rhan Faith Howells – mam i dri o blant a chyfreithwraig brysur) mewn high-heels a sgert fer,” meddai.

“Fy marn yw y gwnaed hyn er mwyn defnyddio sex-appeal Ms Myles er lles ratings y rhaglen.

“Ond yn hytrach na chyflwyno’r pwynt mewn dull sych a diflas, fe ddefnyddiais ddull eironig a dychanol (arddull cyson y golofn) er mwyn tynnu sylw at y mater. Mae fy mhwynt yn un difrifol, fodd bynnag – sy’n tynnu sylw at sut y cyflwynir cymeriad Ms Myles ar Un Bore Mercher.

“Rwy’n flin na chyflwynwyd yr elfen hon o ddychan yn ddigon clir.”

“Ysgogi trafodaeth”

Dywed cylchgrawn Golwg mai“nod y golofn oedd ysgogi trafodaeth am y ffordd y mae menywod yn cael eu dangos ar deledu. Mi fydd Golwg yn gwrando ar y drafodaeth am hynny, ac ar y ffordd yr oedd Huw Onllwyn wedi mynegi ei farn.

“Mae Huw Onllwyn wedi egluro’i safbwynt: ei fod yn tynnu sylw at y ffordd y mae cymeriad Eve Myles yn cael ei ddangos ar y rhaglen, gyda phwyslais ar y sodlau uchel a’i hedrychiad.

“Roedd yn ceisio codi’r pwynt mewn ffordd ddychanol ond mae’n amlwg nad oedd hi’n glir i bawb mai dyna’r nod… un o beryglon, a chryfderau, dychan…

“Os oedd sylwadau ‘Ar y Soffa’ yn cythruddo am y rhesymau anghywir ac os oedd tôn y golofn yn creu camargraff, mae’n ddrwg iawn gyda ni am hynny … ond gobeithio y bydd pawb, gan gynnwys y cynhyrchwyr teledu, yn ystyried y pwynt y tu cefn iddyn nhw.”

Yr ymateb ar Twitter…