Roedd bron i 5% o weithlu Cymru yn gweithio o gartref yn rheolaidd y llynedd, yn ôl astudiaeth newydd.

Ac yn ôl ymchwil Cyngres yr Undebau Llafur (TUC), mae’r nifer sy’n gweithio o gartref wedi cynyddu 27% mewn degawd.

Yng Nghymru yn 2018, roedd 61,000 yn gweithio o gartref yn rheolaidd, ac mae hynny’n gyfwerth â 4.7% o weithlu’r wlad.

Mae cyhoeddi’r ffigyrau yn cyd-daro â ‘Diwrnod Gweithio o Gartref y Deyrnas Unedig’.

Yn ôl y TUC nid oes digon o gyflogwyr yn gadael i’w gweithwyr weithio o gartref.

“Mae pawb yn medru elwa o weithio o adre – gweithwyr yn ogystal â chyflogwyr,” meddai Rhianydd Williams, Swyddog Bolisi TUC Cymru.

“Mae gan weithwyr mwy  o amser i dreulio â’u teuluoedd. Ac mae cyflogwyr yn medru elwa o weithlu mwy cynhyrchiol. Mae yna fuddion amgylcheddol hefyd.

“Ond, mae gormod o gyflogwyr yn sownd yn y gorffennol, a dydyn nhw ddim yn ymddiried digon yn eu staff. Mae angen iddyn nhw ddal fyny.”

Ffigurau

  • Mae gweithwyr hŷn yn fwy tebygol o weithio o adre:
    • Mae 7.5% o bobol 40-59 yn gweithio o adre
    • …ond dim ond 3.4% o bobol 20-29 sy’n gwneud hynny.
  • Mae tua 4 miliwn o weithwyr gwledydd Prydain eisiau gweithio o adre yn ystod peth o’r wythnos.