Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi mai’r Athro Iwan Davies fydd Is-Ganghellor nesaf y sefydliad.

Y Cymro Cymraeg fydd wythfed Is-Ganghellor neu Bennaeth Prifysgol Bangor, a gafodd ei sefydlu yn 1884.

Mae’n olynu’r Athro Graham Upton yn y swydd, a gafodd ei benodi’n Is-Ganghellor Dros Dro yn dilyn ymddeoliad yr Athro John G Hughes ddiwedd y llynedd, a hynny wedi naw mlynedd wrth y llyw.

Mae’r Athro Iwan Davies ar hyn o bryd yn Uwch Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, ac fel academydd mae’n arbenigo ym maes cyfraith fasnachol ryngwladol.

Yn raddedig o brifysgolion Aberystwyth, Caergrawnt a Chaerdydd, mae hefyd yn Fargyfreithiwr, ar ôl cael ei alw i’r Bar am ei waith academaidd ym maes y gyfraith.

“Creu momentwm go iawn”

Yn dilyn y cyhoeddiad am ei benodiad, dywed yr Athro Iwan Davies ei fod yn awyddus “i greu Prifysgol Ddinesig gref, hyderus”.

“Un o fy mlaenoriaethau cyntaf fydd cyfarfod â’r staff a’r myfyrwyr, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at glywed yn uniongyrchol ganddyn nhw am eu gobeithion ar gyfer y brifysgol dros y blynyddoedd nesaf,” meddai.

“Rwy’n credu’n gryf mewn dull o reoli sy’n gynhwysol ac yn seiliedig ar bartneriaeth, a gwn drwy gydweithio fel cymuned y gallwn greu momentwm go iawn, a hefyd wneud Bangor yn gryfach yn ariannol.”

Bydd yr Athro Iwan Davies yn cychwyn ar ei swydd ar Fedi 1.