Bydd dyn o Gaerdydd yn treulio 30 mis dan glo am gyflawni trosedd sy’n gysylltiedig â brawychiaeth.

Mae Zakaria Daud Afey, 20, o Laneirwg, wedi ei gael yn euog o feddu ar ddeunydd a allai fod o ddefnydd i berson sy’n paratoi – neu’n cyflawni – gweithred brawychol.

Mae hefyd wedi ei gael yn euog o rannu llyfr neu ddogfen frawychol.

How To Survive In The West yw’r llyfr dan sylw, ac mi rannodd y llyfr ef ag unigolyn arall ym mis Ionawr 2017.

Clywodd y llys bod y troseddau wedi cael eu darganfod pan gafodd ei ffôn ei feddianu gan yr heddlu. Newidiodd ei ble yn ystod yr achos llys.