Mae person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar ffordd ddeuol yr A4232 yng Nghaerdydd.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 4.45yp ddoe (dydd Iau, Mai 16) yn sgil adroddiad am wrthdrawiad dau gerbyd rhwng Croes Cwrlwys a Lecwydd.

Mae dyn wedi ei arestio yn dilyn y digwyddiad ac ar hyn o bryd yn cael ei gadw yn y ddalfa yn y brifddinas.

Bu’r ffordd ynghau am tua chwe awr neithiwr wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar unwaith.