Mae prif ymgeisydd Ewropeaidd y Blaid Werdd yng Nghymru yn cydnabod nad ydyn nhw’n debyg o ennill sedd yn Etholiadau Ewrop, ond mae’n disgwyl canlyniad da.

Ac mae Anthony Slaughter yn mynnu bod y bleidlais am fwy na Brexit; mae hefyd, meddai, “yn bleidlais tros weithredu tros newid hinsawdd”.

“Mae yna obaith i ni,” meddai wrth golwg360. “Mae pethau’n newid mor gyflym yn y byd gwleidyddol. Byddwn yn bendant yn cael canlyniad da.

“Dw i’n credu bydd y Blaid Werdd – ar lefel ehangach na Chymru – yn ennill seddi. Dw i’n credu bydd pobol yn synnu ar ganlyniad y blaid werdd.”

“Mwy’n dod yn ymwybodol”

Mae’n dweud bod “mwy o bobol yn dod yn ymwybodol o ba mor ddifrifol” yw cyflwr yr amgylchedd, a bod hynny wedi dod yn amlycach iddo wrth ganfasio.

“Ar y stepen drws ac mewn hystingau, mae pobol eisiau siarad am newid hinsawdd,” meddai. “Mae hynny’n galonogol. Yn y gorffennol, bu’n rhaid i ni frwydro i gael y mater ar yr agenda.”

“Yr her fwyaf sy’n ein hwynebu yw’r argyfwng newid hinsawdd,” meddai. “A ni yw’r unig blaid sydd â pholisïau hir dymor i fynd i’r afael â hynny.”

  • Ledled y Deyrnas Unedig, enillodd y Blaid Werdd dwy sedd yn ystod yr etholiad diwethaf yn 2014. Heddiw, fe apeliodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ar i gefnogwyr pleidiau fel y Gwyrddion droi atyn nhw er mwyn cryfhau’r neges wrth-Brexit.