Mae gwaith arloesol ar abaty yng Nghymru yn mynd i newid ein syniadau ni am hanes Cymru, yn ôl archeolegydd.

Abaty Ystrad Fflur yng Ngheredigion oedd un o’r mwya’ – os nad y mwya’ – yng ngwledydd Prydain ac roedd wedi ei fwriadu i fod yn ganolbwynt i wladwriaeth Gymreig annibynnol, meddai’r archeolegydd yr Athro David Austin.

Mewn erthygl yn y cylchgrawn Golwg heddiw, mae’n datgelu sut y mae ei waith yn profi bod yr abaty wedi ei godi ar seiliau hen abaty Celtaidd cynharach, gyda ffynnon sanctaidd yn rhan ganolog ohono.

Mae hefyd yn dweud bod safle’r abaty ar waelod dyffryn a oedd wedi bod yn fan sanctaidd i bobol Cymru ers miloedd o flynyddoedd.

“Y mwya’ yng ngwledydd Prydain”

“Mae hwn yn beth mawr i Gymru,” meddai David Austin, sydd wedi sefydlu Ymddiriedolaeth i barhau i ymchwilio i safle’r abaty ac i’w ddatblygu’n ganolfan ar gyfer dehongli hanes Cymru, o’r cyfnod cyn hanes, trwy Oes y Tywysogion, i hanes y stadau mawr a hefyd amaeth yng Nghymru.

Mae’r gwaith eisoes ar droed ar un o adeiladau fferm hynafol Ystrad Fflur ac fe fydd y ffermdy hefyd yn cael ei addasu – mae’n adeilad 300 oed sydd wedi ei restru gyda pheth o un o furiau’r abaty yn rhan ohono.

Yn Golwg, mae David Austin yn datgelu sut yr oedd wedi dechrau cloddio ar y safle gyda myfyrwyr o’r Brifysgol yn Llanbed gan wybod y byddai’r safle hanesyddol yn fwy na’r olion sy’n weddill heddiw.

“O’n i’n gwybod y byddai safle’r abaty’n fwy, ond fe ges i fy syfrdanu o weld pa mor fawr oedd e mewn gwirionedd. Mae’n 126 o erwau, sy’n golygu mai dyma’r abaty mwya’ yng ngwledydd Prydain o’r rhai sydd wedi eu harchwilio’n llwyr.”

“Creu gwladwriaeth Gymreig”

Fe arweiniodd hynny iddo ofyn pam fod yr abaty mor anferth a pham fod yr Arglwydd Rhys yn 1184 wedi symud y sefydliad o safle arall ychydig filltiroedd i ffwrdd. Mae’n credu bod yr ateb yn newid ein syniadau ni am hanes Cymru yn Oes y Tywysogion.

Roedd yr Arglwydd Rhys yn bwriadu iddi fod yn ganolfan wleidyddol i wladwriaeth Gymreig. Bwriad yr Arglwydd Rhys oedd creu gwladwriaeth Gymreig i wrthsefyll y wladwriaeth Seisnig. Am ugain mlynedd, roedd ei weledigaeth yn fyw.”