Mae angen i’r Llywodraeth greu strategaeth i wneud yn siŵr fod y diwydiant ffilm a theledu yn parhau i dyfu er lles Cymru, meddai aelodau cynulliad.

Ac maen nhw’n dweud bod angen gosod amodau pan fydd cynyrchiadau mawr rhyngwladol mawr yn cael eu gwneud yma, er mwyn rhoi mwy o chwarae teg i weithwyr a chwmnïau o Gymru.

Fe fyddai hynny’n cynnwys:

  • Cynnal o leia’ un clyweliad ar gyfer talent lleol
  • Llunio cytundebau cyd-gynhyrchu gyda chwmnïau lleol
  • Gosod cwota ar gyfer defnyddio talent o Gymru.

“Angen strategaeth”

Fe ddaw’r argymhelliad mewn adroddiad gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu  yn y Cynulliad a glywodd fod y diwydiant sgrin yn tyfu’n gynt yng Nghymru nag ar draws weddill gwledydd Prydain.

Maen nhw’n dweud bod angen i Lywodraeth Cymru godi greu strategaeth a gwneud mwy i hyrwyddo Cymru er mwyn sicrhau bod y llwyddiant yn parhau.

Fe glywodd y Pwyllgor mai un o’r problemau mwya’ yw diffyg sgiliau yng Nghymru ac maen nhw wedi galw ar i’r Llywodraeth fod yn fwy agored gyda threfniadau cyllido.

“Datblygu talent o Gymru” – Bethan Sayeed

“R’yn ni am i Lywodraeth Cymru lunio strategaeth yn dangos sut y bydd yn cefnogi ac yn cynnal ein llwyddiant presennol,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Bethan Sayeed.

“Yn bwysicaf oll, r’yn ni am iddi ddefnyddio pob cyfle i helpu i ddatblygu talent a chynyrchiadau o Gymru sydd â’r potensial i gael eu gwerthu’n rhyngwladol.

“Dyma’r amser mwyaf cyffrous erioed i fod yn rhan o’r diwydiant sgrin yng Nghymru. Rydym ni wedi gweld twf anhygoel yn y sector hwn yng Nghymru, y twf mwyaf trawiadol o bell ffordd yn y Deyrnas Unedig.

“Ond allwn ni ddim tynnu ein troed oddi ar y sbardun nawr. Mae’n rhaid i ni barhau i fuddsoddi mewn cynhyrchwyr ffilm a theledu a’u cefnogi.”

“Allweddol gweithredu’n awr” – TAC

“Mae’n allweddol ein bod ni’n delio â hyn ac yn ei gael e’n iawn nawr, er mwyn osgoi sefyllfa lle y gall llai o gynyrchiadau ddewis dod i Gymru yn y dyfodol. Rydym ni’n moyn i’r diwydiant dyfu,” meddai Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru, Gareth Williams.