Mae’r nifer o draethau yng Nghymru sydd â gwobr uchaf y Faner Las wedi gostwng o 40 i 43.

Mae’r wobr yn cael ei rhoi i draethau ble mae’r dŵr o ansawdd glan.

Fe enillodd draethau Aberdaron a Thywyn yng Ngwynedd a Bae Whitmore ger y Barri wobr y Faner Las y llynedd ond eleni, roedden nhw yn aflwyddianus wrth geisio cyrraedd y prif gategori a gyhoeddwyd heddiw gan Wobrau Arfordir Cymru.

Ymhlith y traethau a fu’n llwyddiannus eleni mae traeth Tresaith yng Ngheredigion, Abersoch ym Mhen Llyn, Llanddwyn ar Ynys Môn a thraeth Dwnrhefn ym Mro Morgannwg.

Mae ansawdd y dŵr ynghyd a glaw trwm yn ffactorau sydd yn effeithio ansawdd traethau fel arfer.

“Calonogol”

Ers deng blynedd bellach, mae’r Faner Las wedi cael ei defnyddio i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyrraedd yr ansawdd dŵr uchaf ac yn dangos ymwybyddiaeth amgylcheddol, ynghyd a mesurau o ddiogelwch a gwasanaethau.

 

Er y siom, mae 44 o Faneri Glas yn chwifio ar 40 o draethau, tri marina gyda un cwmni teithiau cychod hefyd yn cael yr hawl i’w chwifio eleni.

 

Mae’n golygu fod gan Gymru, unwaith eto, y nifer uchaf o’r baneri fesul milltir nag unrhyw le arall yng ngwledydd Prydain.

 

“Rydym yn lwcus yng Nghymru i gael rhai o’r traethau gorau yma ar drothwy’r drws,” meddai gweinidog yr amgylchedd, ynni a materion gwledig, Lesley Griffiths.

 

“Mae’n galonogol gweld cymaint o’n traethau’n derbyn y gwobrau hyn fel cydnabyddiaeth o’r gwaith caled sy’n cael ei wneud ar hyd a lled Cymru i gadw ein traethau a’n dyfroedd yn lân.”