Mae Aelod Cynulliad wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i annog y genedl i fynd yn drydanol.

Fe alwodd Rhun ap Iorwerth, AC Plaid Cymru Ynys Mon ar i’r Llywodraeth groesawu dyfodol i gerbydau allyriadau hynod isel yng Nghymru.

 

Wrth sefyll o flaen rhes o geir trydanol tu allan i’r Cynulliad ym Mae Caerdydd heddiw, dywedodd ei fod eisiau gweld y Llywodraeth yn gwneud llawer mwy a dilyn esiampl yr Alban.

 

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn lansiad adroddiad Driving Change: Scottish Lessons for Wales’ EV Future gan Mr ap Iorwerth, geinidog cysgodol y Blaid dros yr economi a chyllid.

 

“Mae arnom angen strategaeth Cerbydau Allyriadau Hynod Isel eang a chynhwysfawr, nid rhywbeth sy’n cael ei gynnwys yn unig fel rhan o strategaeth ehangach ar leihau carbon,” meddai.

 

“Esiampl yr Alban”

 

Yn ei adroddiad, mae Mr ap Iorwerth yn rhoi pwyslais ar  ddatblygiadau yn yr Alban.

Gallai Llywodraeth Cymru naill ai aros nes bod digon o bobl yn prynu Cerbydau Allyriadau Hynod Isel cyn sbarduno eu buddsoddiad eu hunain mewn seilwaith, sydd ddim yn gwneud llawer o synnwyr i mi,” meddai.

 

“Neu fe allent ddilyn esiampl yr Alban, a gweld y gwir werth o fuddsoddi arian, amser ac ymdrech yn  awr i annog newid ymddygiad”.

“Gadewch i ni wneud datganiadau fel cenedl sydd yn codi proffil Cerbydau Allyriadau Hynod Isel, ac yn normaleiddio’r defnydd ohonynt.”