Mae’r cwmni ynni ExxonMobil wedi cwblhau gwaith ar ei safle yng Nghasnewydd, gan ddyblu maint ei ffatri yno.

Yn dilyn mae 35 swydd barhaol wedi cael eu creu ar y safle, a chyflogwyd 130 yn ystod y gwaith adeiladu.

Mae ExxonMobil yn un o ddarparwyr ynni a masnachwr cemegol bwyaf y byd, ac mae’n hanu o Texas yn yr Unol Daleithiau.

Wrth greu thermoplastigau arbenigol maen nhw’n helpu i leihau pwysau cynnyrch modur, gan arwain at effeithlonrwydd tanwydd gwell a pherfformiad uwch.

“Hwb i economi Cymru”

“Mae’n braf gweld buddsoddiad ExxonMobil yn ei ffatri yng Nghasnewydd yn creu 35 o swyddi newydd ac yn rhoi hwb i economi Cymru,” meddai Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates.

“Mae buddsoddiad fel hyn nid yn unig yn cefnogi’r diwydiant, ond mae hefyd yn darparu pleidlais o hyder i weithgynhyrchu yn Ne Cymru.”

“Wrth i ni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’n bwysicach nag erioed bod diwydiant yn ceisio arloesi, buddsoddi a chynyddu cynhyrchiant lle bynnag y bo modd. ”