Mae’r heddlu a’r gwasanaeth tân ac achub yn y gogledd wedi lansio ymchwiliad ar y cyd yn dilyn achos o losgi bwriadol yng nghyffiniau Belgrano, ar gyrion Abergele.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw cyn hanner nos dros y Sul (Mai 12) yn dilyn adroddiad o dân.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae’n ymddangos bod y tân wedi ei gynnau’n fwriadol mewn cerbyd Ford Kuga, cyn lledu i garejys cyfagos ac achosi “difrod sylweddol” i adeiladau a ddau gerbyd gerllaw.

“Rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd unrhyw weithgarwch amheus yn yr ardal cyn i’r tân ddechrau ac rydym yn arbennig o awyddus i siarad â thri dyn a dynnodd sylw perchnogion y cerbydau o gwmpas 11.40 nos Sul,” meddai’r Ditectif Ringyll Rob Mahoney.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad i gysylltu â nhw ar y rhif 101.