Mae disgwyl i Gyngor Sir Conwy gadarnhau buddsoddiad gwerth £49m yn ysgolion y sir yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Mae hynny’n cynnwys cyllid i foderneiddio saith o ysgolion yn nhrefi arfordir y sir: Deganwy, Llandrillo, Llanfairfechan, Abergele, Tywyn a Bae Cinmel, Llanddulas a Dwygyfylchi. Fe fydd hyn yn eu codi i safonau Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

Fe fydd yr ysgol arbennig, Ysgol y Gogarth yn Llandudno, hefyd yn elwa, yn ogystal ac unedau cyfeirio disgyblion y sir.

Mae’r awdurdod lleol wedi derbyn £6m yn ychwanegol mewn grantiau ar gyfer gwahanol gynlluniau addysg.

Mae hynny’n cynnwys grantiau ar gyfer cyflwyno’r cynllun gofal plant 30 awr; 1.2m i hybu cyfleusterau cyfrwng Cymraeg mewn tri lleoliad o fewn y sir, a £900,000 ar gyfer prosiectau dysgu cymunedol.

Moderneiddio ysgolion

Mae’r Cynghorydd Garffild Lewis, aelod o’r Cabinet sy’n gyfrifol am Addysg, yn gobeithio moderneiddio rhai ysgolion o fewn y sir yn ystod y cyfnod 2019 i 2024.

Dyma fydd ail gam y buddsoddiad mawr yn ysgolion Conwy, ar ôl i Ysgol Awel y Mynydd, Sŵn y Don, Ysgol Dyffryn yr Enfys ac Ysgol Nant y Groes gael eu hadnewyddu rhwng 2014 a 2019.

“Fel Cyngor, rydym am wneud popeth y gallwn i wella ein hysgolion fel bod gan ein holl bobol ifanc yr amgylchedd cywir i ddysgu a llwyddo,” meddai’r Cynghorydd Garffild Lewis.

“O dan y buddsoddiad hwn sydd werth sawl miliwn, rwy’n edrych ymlaen i weld y prosiectau unigol yn dod yn eu blaen, o wella cyfleusterau presennol ac estyniadau i adeiladu ysgolion cyfan gwbl newydd.”