Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod cronfa ar gyfer lledaenu ffyniant yn decach ledled Cymru wedi ei dyblu i £3m.

Nod cronfa Her yr Economi Sylfaenol yw datblygu economi ranbarthol Cymru, ac mae’n cynnig cymorth o hyd at £100,000 ar gyfer prosiectau arbrofol i dreialu beth yw’r ffordd orau i’r Llywodraeth feithrin a thyfu sylfeini yn yr economïau lleol.

Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, fe allai canolbwyntio ar yr economi sylfaenol “gadw arian mewn cymunedau, creu gwell amodau cyflogaeth a chynyddu ffyniant ar draws Cymru”.

Creu economïau cyfartal

Mae’r economi sylfaenol yn cynnwys gwasanaethau bob dydd fel gofal ac iechyd, bwyd, tai, ynni, adeiladu, twristiaeth a manwerthu.

“Mae llawer o’n cymunedau rhanbarthol yn dweud wrthym fod y ffordd y mae’r economi wedi datblygu yn teimlo’n anghymesur iddyn nhw ac maen nhw’n teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl,” meddai Mark Drakeford.

“Pan gefais i’r swydd fel Prif Weinidog, gwnes i ymrwymiad i fynd i’r afael â hyn.

“Mae’n bwysig yn y drafodaeth ynglŷn ag effaith Brexit na fyddwn ni’n colli golwg ar yr hyn a wnaeth i lawer o bobol o Gymru bleidleisio dros ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a pha gamau sydd angen eu cymryd i fynd i’r afael â’u pryderon nhw.”

Bydd modd gwneud ceisiadau i’r gronfa am gyfnod o wythnos o Fawrth 14 i Orffennaf 5.