Cafodd 60,857 o bobol eu denu i Gaernarfon yn ystod Gŵyl Fwyd y dref ar ddydd Sadwrn (Mai 11) – nifer “anghredadwy” meddai un o’r trefnwyr.

Mae’n golygu fod yr ŵyl wedi tyfu unwaith eto gyda 12,000 yn fwy o bobol yn ymweld a’r ŵyl eleni.

Dyma oedd y bedwaredd ŵyl sydd yn parhau i fynd o nerth i nerth, ac mae’n adlewyrchu llwyddiant tref sydd yn ffynnu ar hyn o bryd, yn ôl rheolwr Hwb Caernarfon, Gavin Owen.

“Anhygoel”

“Mae o’n nyts. Mae o’n ddigwyddiad hynod lwyddiannus sy’n denu llwyth o bobol i’r dre (Caernarfon) ac yn dangos busnesau bwyd lleol.

“Roedd y ffigwr flwyddyn dwytha’ yn 42,000, sef diwrnod prysuraf 2018.”

Ar gyfartaledd, mae 18,000 o bobol yng Nghaernarfon yn ystod dyddiau’r haf, meddai Gavin Owen.

“Oeddach chi’n cael y teimlad ar y diwrnod bod y lle yn fwy flwyddyn yma. Mae o’n anghredadwy.”

Cafodd y ffigurau eu darganfod drwy system Wi-fi Caernarfon sydd a 17 porth o gwmpas y dref.

“Hyd yn oed os ydach chi ddim yn defnyddio eich ffôn symudol, mae’r system yn pigo fyny bob un ffôn symudol o fewn yr ardal,” meddai Gavin Owen.

“Dre ar ei fyny”

Tydi Gavin Owen ddim yn gallu dweud os bydd cynnydd eto’r flwyddyn nesaf, ond dywedodd bod hyn yn dangos ffyniant Caernarfon ar hyn o bryd.

“Mae o’n wych. Mae o’n dangos y dre i bobol fysa ddim o anghenraid isio dod yma am y diwrnod.

“Mae ‘dre ar ei fyny, mae o wedi cael restoration newydd, mae ’na lwyth o siopau annibynnol newydd yma, mae yna sinema, maen nhw’n adeiladu’r datblygiad newydd ar Gei Llechi.

“Dw i’n falch bo’ ni’n gallu dangos i bobol sut olwg sydd ar y dre, wneith o dynnu nhw yn ôl yma eto.”