Mae llanc wedi dweud ei fod yn “lwcus iawn” ar ôl i awyren yr oedd yn teithio ynddi blymio i’r ddaear ger y Fenni dros y penwythnos.

Roedd Jack Moore yn un o dri theithiwr a gafodd eu cludo i’r ysbyty yn dilyn y ddamwain ar ffordd yr A40 am tua 11yb ddoe (dydd Sul, Mai 12).

Y ddau deithiwr arall oedd ei chwaer a’i ewythr, sef Billie Manley a Stuart Moore.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed Jack Moore na chafodd unrhyw un eu hanafu’n ddifrifol yn ystod y digwyddiad.

“Mae’n anghredadwy i feddwl fy mod i a’m teulu wedi cerdded i ffwrdd o hyn,” meddai Jack Moore mewn neges ar Facebook wrth gyfeirio at adroddiad o’r ddamwain.

“Fe hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth ein helpu yn y lleoliad, yn ogystal â’r gwasanaethau brys.”

“Rydyn ni’n lwcus iawn,” meddai wedyn.