Cafodd dringwr ei gludo i ysbyty Stoke ddoe (Dydd Sul, Mai 12) ar ôl disgyn yn Eryri.
Roedd y dyn yn dringo yn Rhiwiau Caws, lleoliad serth o dan fynydd Glyder Fawr yng Nghwm Idwal, Dyffryn Ogwen.
Ar ôl cwblhau un rhan gyda dau ffrind, fe lithrodd 20 metr lawr i dwll.
Roedd un o’i ffrindiau yn ddoctor ac fe alwodd am gymorth yn syth ar ôl gweld ei fod yn anymwybodol ac yn dioddef o anafiadau difrifol.
Cafodd ei gludo yn syth i ganolfan Trawma Stoke mewn hofrennydd.