Mae’r heddlu’n trin marwolaeth dyn 74 oed o Gaergybi, a fu farw ar ôl cael ei saethu â bwa croes, fel achos o lofruddiaeth.

Bu farw Gerald Corrigan fis ar ôl y digwyddiad yn ei gartref ar Ddydd Gwener y Groglith (Ebrill 19).

Fe fu’n anymwybodol yn yr ysbyty yn Stoke, lle bu farw o ganlyniad i’w anafiadau fore ddoe (dydd Sadwrn, Mai 11).

Mae’n gadael partner, Marie, a dau o blant, Neale a Fiona.

Dywed yr heddlu iddo ddangos “cryn ddewrder a dyfalbarhad” wrth dderbyn triniaeth yn yr ysbyty”.

Maen nhw’n “cadw meddwl agored” ynghylch yr ymchwiliad, meddai llefarydd wrth apelio unwaith eto am wybodaeth.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.