Mae cannoedd o bobol yn ymgasglu yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sadwrn, Mai 11) i orymdeithio tros annibyniaeth i Gymru.

Bydd yr orymdaith, y gyntaf o’i math yng Nghymru ac sy’n cael ei chydlynu gan fudiad Pawb Dan Un Faner, yn gadael Neuadd y Ddinas am 1.30yp, ac yn ymlwybro tuag at y Llyfrgell Ganolog yn yr Ais.

Ymhlith y mudiadau sy’n cymryd rhan mae Yes Cymru, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Cefnogwyr Pêl-droed tros Annibyniaeth, Llafur tros Gymru Annibynnol, Yes is More, Undod ac Awoken Cymru.

Yn ymuno â nhw ar y daith fydd cynrychiolwyr o grwpiau annibyniaeth yn yr Alban.

Ar ddiwedd yr orymdaith, fe fydd nifer o siaradwyr yn annerch y dorf, gan gynnwys Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yr actores Carys Eleri, Ben Gwalchmai o Lafur tros Gymru Annibynnol, Siôn Jobbins o Yes Cymru, Sandra Clubb o Undod a’r bardd Ali Goolyad.