Mae tri dyn wedi cael carcharu am gyflawni twyll gwerth £5 miliwn.

Anthony Smith oedd yn bennaf gyfrifol am gyflawni’r drosedd, a gerbron Llys y Goron Caerdydd clywodd y byddai’n treulio tair blynedd a naw mis dan glo.

Mae Colin Mar wedi derbyn dedfryd carchar 21 mis – sydd wedi cael ei ohirio am 18 mis – a gafodd Keith Peters, cyfrifydd y troseddwyr, ei garcharu am 15 mis.

Hawlio arian cyhoeddus

Roedd y triawd wedi hawlio arian grant gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd trwy ddulliau anghyfreithlon. Daeth sawl cwmni i ben yn sgil y twyll.

Daw’r dedfrydau yn dilyn ymchwiliad wyth mlynedd o hyd gan Heddlu’r De.

“Er mwyn datgelu maint y twyll, ymchwiliodd ein swyddogion yn drylwyr, a’u hymrwymiad nhw sydd wedi arwain at ganlyniad llwyddiannus y llys,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd, Nick Bellamy.