Mae disgwyl i filoedd o bobol heidio i Gaernarfon yfory (dydd Sadwrn, Mai 11) i fwynhau pedwaredd Ŵyl Fwyd y dref.

Yno bydd cymysgedd o stondinau bwyd, arddangosfeydd coginio a llwyfannau cerddoriaeth ar y Maes, ar lannau’r Fenai ar y Cei Lechi ac o fewn ac o gwmpas y Castell.

O ran bwyd a diod, mae dewis eang gan gynnwys cynnyrch Oinc Oink, Caws Rhydydelyn, Antur Waunfawr, gin Aber Falls, Amore Pizza a Môn ar Lwy.

Fe fydd y cogydd poblogaidd Chris ‘Foodgasm’ Roberts yn cynnal arddangosfa arbennig yn y Castell hefyd.

Yn ogystal, mae chwe llwyfan cerddoriaeth yno’r flwyddyn yma – Llwyfan Radio Cymru, Llwyfan y Maes, Llwyfan Bar Bach, Llwyfan y Castell a Llwyfan Anglesey Arms.

Bydd Alffa, Gwilym Bowen Rhys a’r Band, Bwncath, Elidyr Glyn, Plu, Phil Gas, Côr Tenovus a Chôr Meibion Caernarfon yn perfformio o ddeg y bore tan 4.30 yn y prynhawn.

Mwy o stondinau, a thywydd braf

 Profodd yr ŵyl lwyddiant ysgubol y llynedd gan ddenu dros 20,000 o ymwelwyr i’r dref, ac mae un o’r trefnwyr yn disgwyl mwy eleni.

“Dros y diwrnod roedd yna fwy nag ugain mil yma’r llynedd,” meddai Nici Beech, un o drefnwyr gwirfoddol Gŵyl Fwyd Caernarfon wrth golwg360.

“Wnaethon ni gael llwyddiant arbennig flwyddyn dwytha’, mae’n dangos achos lenni rydan ni’n cael mwy o stondinau eto.

“Mae yna fwy o stondinau wedi holi, busnesau wedi cyffroi ac yn edrych ymlaen a lot o son am yr ŵyl.

“Rydan ni wedi bod mor lwcus efo’r tywydd,” ychwanegodd Nici Beech, “hon ydi’r bedwaredd ŵyl ac rydan ni wedi cael yr union yr un tywydd braf bedair gwaith yn olynol.”