Mae anghydfod tros drin cleifion Cymreig yn Lloegr, bellach wedi dod i ben.
Mae miloedd o gleifion o Sir y Fflint yn croesi’r ffin yn rheolaidd er mwyn defnyddio gwasanaethau Ysbyty Iarlles Gaer, yng Nghaer.
Ond yn dilyn ffrae tros arian, cyhoeddodd yr ysbyty na fydden nhw’n derbyn cleifion o Gymru – gan eithrio achosion brys neu famolaeth.
Bellach, mewn datganiad hallt ei dôn, mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi bod yr anghydfod wedi dod i ben.
“Rwy’n parhau i fod yn siomedig gyda’r camau a gymerwyd gan Ysbyty Iarlles Gaer,” meddai. “… Dyma sefyllfa y gellid yn hawdd fod wedi’i hosgoi.”
Beirniadaeth
Mae’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Darren Millar, wedi ceryddu’r Gweinidog Iechyd gan ei gyhuddo o “anwybyddu rhybuddion”.
“Dw i’n hynod o falch i glywed bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi camu i’r adwy a helpu cleifion gogledd Cymru,” meddai. “Mae’n hynod siomedig bod y fath sefyllfa wedi codi.”