Mae panel o arbenigwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu  “deddfwriaeth fwy pwrpasol ac effeithiol” ar gyfer cynyddu nifer y disgyblion yng Nghymru sydd yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, “mae’r arbenigwyr yn hollol glir bod angen Deddf Addysg Gymraeg er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr” erbyn 2050, sef nod uchelgeisiol Llywodraeth Cymru.

Cafodd adroddiad newydd ‘Gwella’r Broses Cynllunio Addysg Gymraeg’ ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ac mae yn cynnig argymhellion ar sut i wella strategaeth y Gymraeg mewn addysg.

“Mae’n gwbl briodol i’r Llywodraeth gytuno rhai newidiadau i’r Is-ddeddfwriaeth bresennol wrth wynebu’r her a osodir gan y ddogfen bolisi Cymraeg 2050,” meddai awduron yr adroddiad.

Er hynny, barn yr arbenigwyr yw bod “angen ystyried yn ofalus sut mae cryfhau’n sylweddoli proses o gynllunio ieithyddol ac addysgol”.

Fe fyddai hyn “yn sicrhau fod canran llawer uwch o ddisgyblion yn cael y cyfle i allu siarad Cymraeg dros y degawdau nesaf hyn”.

“Deddfwriaeth fwy pwrpasol”

Mae’r panel o arbenigwyr yn cynnwys yr Athro Dylan Foster Evans o Brifysgol Caerdydd, Comisiynydd y Gymraeg – Aled Roberts, Meirion Prys Jones o Lingue Cyf, Sarah Mutch o Gyngor Bwrdeistref Caerffili, a Bethan Morris Jones – Pennaeth Ysgol Pendalar Caernarfon.

“Er mwyn sicrhau gwell darpariaeth o ran cynllunio a darparu ar gyfer addysg Gymraeg a dysgu’r Gymraeg yn fwy effeithiol yn gyffredinol, bydd angen creu deddfwriaeth fwy pwrpasol ac effeithiol,” meddai’r panel.

“Bydd angen creu deddfwriaeth fwy pwrpasol ac effeithiol er mwyn delio â’r holl ddatblygiadau hyn gan greu trefn a fydd yn fwy cynhwysol ac uchelgeisiol na’r un bresennol.”

Mae’r panel yn nodi bod strategaeth Cymraeg 2050 yn gosod her sylweddol i’r gyfundrefn addysg yng Nghymru o ran cynyddu’r gyfran o blant sy’n derbyn addysg Cymraeg.

“Calonogol iawn”

Dywed Osian Rhys o Gymdeithas bod yr adroddiad yn “galonogol iawn”.

“Mae’r adroddiad yn cadarnhau llawer o’r hyn rydyn ni wedi bod yn ei ddweud. Mae’r arbenigwyr yn hollol glir bod angen Deddf Addysg Gymraeg er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr.

“Mae angen Deddf Addysg Gymraeg yn ogystal â newidiadau pellgyrhaeddol er mwyn recriwtio, hyfforddi a chadw athrawon sy’n dysgu drwy’r iaith.”