Bydd nifer o unigolion sy’n weithgar ar lefel lleol a chenedlaethol yn cael eu hurddo’n aelodau o Orsedd y Beirdd yn ystod prifwyl Sir Conwy eleni.

Un a fydd yn derbyn y Wisg Las ychydig filltiroedd o’i gartref yn ardal Padog fydd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts, sy’n cael ei gydnabod nid yn unig am ei gyfraniad i’r diwydiant amaeth yng Nghymru, ond i’w gymuned leol yn Nyffryn Conwy hefyd.

Yn ôl y ffermwr, cael mynediad i’r Orsedd yw’r “anrhydedd mwyaf” i Gymro Cymraeg fel yntau.

“Mae’r iaith a’r diwylliant [Cymraeg] yn cael eu cynnal yng nghefn gwlad, i raddau, gan y diwydiant amaeth,” meddai wrth golwg360.

“Dw i wedi dweud erioed fel Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru mai fy nod i ydy creu amaeth gynaliadwy o fewn cymuned gynaliadwy…

“Mae yna fwy o garfan o Gymry Cymraeg o fewn y diwydiant amaeth nag mewn unrhyw ddiwydiant arall [yng Nghymru].

“Ac, mewn ffordd, dw i’n teimlo mai fy nyletswydd fel Llywydd ydy creu amodau er mwyn i’r Gymraeg ffynnu, a ffynnu drwy fod yn gynaliadwy.”

Cymwynaswyr llawr gwlad

Mae sawl unigolyn arall sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig ar lawr gwlad yng Nghymru wedi eu cynnwys ar restr yr Orsedd eleni hefyd.

Yn eu plith mae Menna Baines – y newyddiadurwr a’r hanesydd llên a chelf a fydd hefyd yn derbyn y Wisg Werdd am ei chyfraniad i’w hardal a’i bro ym Mangor.

Bydd Gwisg Werdd hefyd i Huw Thomas o Gaerdydd, sef pennaeth cyntaf  Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhymni a ddaeth wedyn yn bennaeth ar Ysgol Gymraeg Glantaf, gan sicrhau bod pob pwnc Lefel A yn cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yno.

Bydd Nesta Williams o Benrhiwllan ger Llandysul, sydd wedi bod yn gwirfoddoli ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ers 1984, hefyd yn cael ei hurddo i’r Orsedd, ynghyd â Rowland Wynne, awdur cyfrol ar y gwyddonydd o Geredigion, yr Athro Evan James Williams.