Fe fydd tua hanner dwsin o ddysgwyr Cymraeg yn cael eu hanrhydeddu gan Orsedd y Beirdd yn Nyffryn Conwy eleni

Yn eu plith mae Daniela Schlick, a gyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2017, a hynny ddwy flynedd ar ôl symud o’r Almaen i ymgartrefu yn ardal Porthaethwy.

Erbyn hyn, mae’n gweithio fel cydlynydd datblygu’r defnydd o’r Gymraeg ym myd busnes i Fentrau Iaith Cymru, ac yn gwirfoddoli’n gyson er lles y Gymraeg yn ei chymuned.

Wrth ymateb i’r newyddion y byddai’n derbyn y Wisg Las ym mis Awst, dywed yr Almaenes sydd wedi syrthio mewn cariad â Chymru ei bod yn “anrhydedd mawr” iddi.

“Bydda i wedi byw yng Nghymru am bedair blynedd erbyn yr haf,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n teimlo’n angerddol a brwdfrydig dros y Gymraeg, a thros wneud beth fedra i dros y Gymraeg.”

Dysgwyr nodedig eraill

Ymhlith y dysgwyr eraill fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd ym mis Awst mae Pierino Algieri o Langoed, carcharor rhyfel o’r Eidal a ddysgodd y Gymraeg ddeugain mlynedd yn ôl a magu ei blant ar aelwyd Gymraeg.

Bydd yr Iseldirwr o Ben Llŷn, Berno Broshchott, hefyd yn derbyn coban, yn ogystal â’r doctor o Fangor, Phillip Moore, sy’n wreiddiol o Farbados.

Bydd gwisg hefyd i Grace Emily Jones, a ddaeth o Seland Newydd i fyw yn ardal y brifwyl ar ôl cyfarfod â chneifiwr lleol, a bydd yr athro Gymraeg o Aberhonddu, Malcolm Llywelyn, hefyd yn cael Eisteddfod i’w chofio.