Mae elusen wedi derbyn dros £160,000 mewn grant er mwyn datblygu ac adnewyddu neuadd hanesyddol yng nghanol tref Llanbedr Pont Steffan.

Cafodd Neuadd Fictoria ei hagor yn swyddogol yn 1884, a thros y blynyddoedd mae’r adeilad wedi cael ei defnyddio fel sinema ac fel lleoliad ar gyfer cyngherddau a dawnsfeydd.

Ers 2011, mae’r neuadd wedi bod yn nwylo Ymddiriedolaeth Trawsnewid Llambed, sy’n cynnal llu o weithgareddau yn y neuadd ar hyn o bryd, gan gynnwys gwersi Cymraeg, gigs a marchnad dan do.

Cafodd rhannau o’r adeilad eu hadnewyddu yn 2014, ond bwriad yr ymddiriedolaeth yw datblygu’r neuadd ymhellach, gan ei dychwelyd at ei gwreiddiau adloniannol.

“Y nod yw gwneud y neuadd yn lleoliad ar gyfer y celfyddydau unwaith yn rhagor,” meddai Gary Thorogood, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Trawsnewid Llanbed, wrth golwg360.

“Ein gobaith fydd darparu adloniant sy’n cynnwys eitemau comedi a cherddoriaeth fyw…

“Bydd y cyfleusterau newydd yn cynnwys swyddfa docynnau newydd, offer goleuo a sain modern, seddi a llwyfan newydd, yn ogystal â chaffi.”

Dyma glip fideo o’r neuadd fel y mae ar hyn o bryd: