Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu penderfyniad gan un o bwyllgorau’r Cynulliad i ystyried newidiadau i’r gyfraith er mwyn gwarchod ysgolion bychain.

Ymhlith y newidiadau mae aelodau’r Pwyllgor Deisebau yn ei ffafrio yw cyflwyno proses a fyddai’n galluogi pobol i apelio yn erbyn penderfyniadau i gau ysgolion.

Roedd y mater yn cael ei drafod ar ôl i ddeiseb a oedd yn cynnwys dros 5,000 o lofnodion gael ei chyflwyno gan rieni ac ymgyrchwyr Ysgol Gymunedol Bodffordd, Ynys Môn, y llynedd.

Yn ddiweddar, mae Cyngor Ynys Môn wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gofyn i’r Pwyllgor Gwaith i wneud tro pedol ar benderfyniadau i gau rhai ysgolion cynradd yn ardaloedd Llangefni a Seiriol.

 “Sicrhau tegwch”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi diolch i’r pwyllgor am gytuno i edrych ar ffordd o apelio yn erbyn penderfyniadau i gau ysgolion.

“Rydyn ni’n ffyddiog y cymer y Gweinidog sylwadau’r pwyllgor o ddifrif gan ei bod wedi profi ei bod am sicrhau tegwch i ysgolion a chymunedau gwledig,” meddai Ffred Ffransis.

“Yn ein profiad ni, mae hi wastad yn barod i wrando a gweithredu er lles y Gymraeg a chymunedau ledled y wlad.”