Dywed Heddlu’r Gogledd eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff ar ol i gleidiwr fethu a dychwelyd nos Sadwrn (Mai 4).

Cafwyd hyd i’r corff yn ardal Blaenau Ffestiniog.

Mae’r heddlu wedi archwilio’r safle ac mae’r Gangen Ymchwiliadau Damweiniau Awyr (AAIB) hefyd wedi ymweld â’r safle.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.