Mae Heddlu’r De yn parhau i weithredu gorchymyn gwasgaru yn dilyn ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mhontypridd dros y penwythnos.

Dywed yr heddlu bod y gorchymyn mewn lle ar ôl i nifer fawr o bobol ifanc ymgasglu dros benwythnos gŵyl y banc ac er mwyn “diogelu’r cyhoedd”.

Mae’r gorchymyn hefyd yn ymestyn i Aberdâr ac Aberpennar ac fe fydd yn parhau mewn grym am weddill gŵyl y banc.

Nos Sadwrn, dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi derbyn adroddiadau bod grŵp mawr o bobol ifanc wedi trefnu dod at ei gilydd a hynny ar ôl i nifer fawr gael eu gweld yn nhref Pontypridd nos Wener.

Mae’r gorchymyn yn rhoi’r hawl i swyddogion yr heddlu atal person o ardal benodol am gyfnod o 48 awr.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad ym Mhontypridd nos Wener neu sy’n ymwybodol bod unrhyw ddigwyddiadau eraill wedi’u trefnu ar ŵyl y banc i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555111.