Mae Heddlu’r De yn cynnal ymchwiliad ar ôl i ferch ifanc gael ei chludo i’r ysbyty gydag anafiadau sy’n bygwth ei bywyd ar ôl cael ei tharo gan gar yng Nghaerdydd.

Fe fethodd y car a stopio ar ôl y gwrthdrawiad yn Sblot, Caerdydd rhwng 7.30yh a 8yh ddydd Sadwrn (Mai 4).

Cafodd y ferch ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r digwyddiad a dylai unrhyw sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1900159968.