Mae ffermwr o Langadog wedi cyfaddef iddo esgeuluso anifeiliaid, ar ôl i fwy na 70 o weddillion cyrff gael eu canfod ar ei dir.

Mae Teifion Williams, sy’n ffermio ym Mronallt, yn gorfod talu dros £3,700 mewn dirwyon a chostau am y troseddau ar ôl i swyddogion Cyngor Sir Gaerfyrddin ymweld â’r fferm ym mis Chwefror a mis Mawrth 2018.

Clywodd Llys Ynadon Llanelli fod y swyddogion wedi dod o hyd i 32 o weddillion defaid yn ystod eu hymweliad cyntaf ar ôl derbyn cwyn.

Bu i ail gŵyn arwain at ddarganfod 39 o weddillion cyrff pellach mewn caeau eraill ger cilfan ar ffordd yr A40.

Roedd y rheiny’n cynnwys ŵyn, dafad a fu farw yn ystod y broses o wyna, gweddillion yn gorwedd mewn nant, a hwrdd Mynydd Cymreig Du a fu farw o flinder ar ôl i’w garn gael ei ddal ar ffens.

Yn dilyn archwiliad ar y fferm, fe ddaeth swyddogion a milfeddyg o hyd i ragor o weddillion, gan gynnwys un carcas buwch mewn storfa piswail.

Clywodd y llys nad oedd Teifion Williams wedi gallu canolbwyntio ar redeg y fferm mewn modd priodol oherwydd salwch angheuol a marwolaeth ei fam ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno.

Dywedodd hefyd nad ei anifail ef oedd yr hwrdd Mynydd Cymreig Du, ond derbyniodd fod ganddo gyfrifoldeb dros ei les beth bynnag.

Dadleuodd ei dîm amddiffyn yn erbyn gorchymyn cymunedol, a fyddai’n effeithio ar ei allu i redeg y fferm, a chytunodd yr ynadon ar gosb ariannol.