Mae swyddogion Cyngor Môn wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gofyn i’r Pwyllgor Gwaith wneud tro pedol ar benderfyniadau i gau rhai o ysgolion cynradd y sir.

Daw ar ôl i Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru gyhoeddi fis diwethaf y byddai’n ymchwilio i gŵyn nad oedd y Cyngor wedi dilyn y prosesau cywir wrth gau ysgol bentref.

Mae swyddogion bellach yn galw ar y Pwyllgor Gwaith i wneud tro pedol ar benderfyniadau ynghylch dyfodol darpariaeth addysg yn wardiau Llangefni a Seiriol.

Os yw aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn cytuno ar dro pedol, bydd unrhyw broses ymgynghori newydd yn dilyn anghenion y Côd Trefniadaeth Ysgolion newydd.

Cafodd y fersiwn newydd ei chyhoeddi ym mis Tachwedd, ac mae’n cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig.

Yr ysgolion dan sylw

Bu gwrthwynebiad mawr yn dilyn penderfyniad gan y Pwyllgor Gwaith fis Rhagfyr y llynedd i gau Ysgol Gymunedol Bodffordd, gan ei huno gydag Ysgol Corn Hir mewn adeilad newydd.

Ychydig  fisoedd ynghynt, fe wnaethon nhw hefyd benderfynu cau Ysgol Talwrn, gan symud y disgyblion i Ysgol y Graig.

Yn ardal Seiriol wedyn, penderfynwyd cau Ysgol Gynradd Biwmares, tra bydd Ysgol Llangoed yn cael ei hadnewyddu ac Ysgol Llandegfan yn cael ei hadnewyddu a’i hehangu.

Ymateb

Wrth ymateb i’r posibilrwydd na fydd Ysgol Gymunedol Bodffordd yn cau mwyach, dywed Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith fod hyn yn “newyddion gwych”.

“Rydyn ni’n llongyfarch y rhieni a’r ymgyrchwyr lleol, sydd yn ysbrydoliaeth i bobol ledled y wlad,” meddai.

“Rydyn ni’n annog Cyngor Môn i fynd ati nawr i drafod yn gadarnhaol gyda’r rhieni a’r gymuned er mwyn datblygu’r ysgol.”

Ond yn ôl un o gynghorwyr Seiriol, mae’r cyhoeddiad diweddaraf yn creu “ansicrwydd” o fewn ei ardal.

“Mae’n mynd i fod yn newyddion da i Ysgol Biwmares, ond wrth iddyn nhw ail edrych ar bethau mae’n siŵr y bydd yna rai yn Llangoed yn siomedig,” meddai’r Cynghorydd Lewis Davies.

“Doedd yna ddim bygythiad i Ysgol Llandegfan oherwydd roedd hi’n ysgol lawn.

“Mae’r cyhoeddiad diweddaraf yn bownd o greu ansicrwydd o fewn yr ardal.”