Bydd glanhawyr, cogyddion a swyddogion diogelwch Prifysgol Bangor yn cynnal protest yn erbyn bwriad eu cyflogwr i leihau eu pensiynau.

Yn ôl undeb Unsain, mae Prifysgol Bangor eisiau talu 12% yn llai i botiau pensiwn y gweithwyr ar y cyflogau isaf.

Ond ni fydd unrhyw gwtogi ar gyfraniadau i botiau pensiwn gweithwyr ar gyflogau uwch, megis darlithwyr ac uwch reolwyr, yn ôl Unsain.

“Mae gweithwyr cefnogol [Prifysgol] Bangor yn cael llai o gyflog ac mae eu pensiynau yn eithaf tlawd fel mae pethau,” meddai Wendy Allison o Unsain Cymru.

“Mae’r Brifysgol yn bygwth eu gwneud nhw yn dlotach pan fyddan nhw yn ymddeol tra, ac ar yr un pryd, yn gwarchod pensiynau gweithwyr ar gyflogau uwch.

“Mae’r anffafriaeth yn afiach.

“Yr oll mae’r gweithwyr cefnogol yn gofyn amdano yw’r un parch â’u cydweithwyr academaidd a’r rheolwyr.

“Maen nhw wedi cael llond bol ar gael eu trin fel gweithwyr eilradd.”

Bydd y rali yn cael ei chynnal ddydd Mawrth nesaf ar Ffordd y Coleg.

Mae golwg360 wedi gofyn i Brifysgol Bangor ymateb.